Fi ac Aaron Ramsey (e-lyfr)
Mae'r stori'n ymwneud â Dan a Deio, gyda'r nofel yn gorffen gyda Chymru yn cyrraedd Ewro 2020. Mae perthynas y ddau fel gêm bêl-droed - yn uchafbwyntiau bendigedig, ac yn isafbwyntiau siomedig, torcalonnus. Ond drwy bêl-droed, mae'r ddau yn dod i ddeall ei gilydd, a dod i werthfawrogi mai gwahanol gryfderau a chyd-chwarae sy'n creu tîm go iawn.