Mae Glan Davies yn wyneb cyfarwydd trwy Gymru gyfan wedi gyrfa hir o berfformio ar lwyfannau'r wlad mewn nosweithiau o bob math. Bu'n actio mewn nifer o ffilmiau a rhaglenni poblogaidd ar S4C yn cynnwys Pobol y Cwm. Gweithiodd yn agos gyda nifer o fawrion y byd adloniant, yn cynnwys Dafydd Iwan, Ryan a Ronnie a Gari Williams ymhlith eraill, ac mae ganddo stôr o straeon difyr i'w hadrodd.
"Rwy'n cofio Glan fel un o'r cymeriadau hynny oedd yn sefyll allan, mor gynnar â'n dyddiau ysgol gynradd ym Mrynaman. Mae'n debyg mai ar lwyfan y ddrama y des i'n ymwybodol ohono yn gynta, ac os oedd Glan yn y cast, roeddech chi'n siŵr o gael llond y lle o gynulleidfa, a llond bola o chwerthin.
Ar y llwyfan y croesodd ein llwybrau yn ddiweddarach hefyd, mewn nosweithiau llawen a chyngherddau, a Glan yn aml iawn oedd yr arweinydd, a'r sbort felly wedi ei sicrhau. A dwi'n gwybod y bydd sbort a chwerthin yn llebnwi tudalennau'r llyfr hwn hefyd." (Dafydd Iwan)
"Un hael ei gymwynas yw Glan ac mae cymaint o achosion da wedi elwa o'i amser, ei egni a'i hiwmor. Mae'n arwerthwr heb ei ail ac wedi cynnal cymaint o ocsiynau i godi arian dros wahanol fudiadau. Ac mae Glan yn llwyddo i gael punt ychwanegol allan o Gardi bob tro. Ei dalent yw adnabod ei bobol, a gwybod sut mae eu parchu a'u pryfocio ar yr un pryd." (Elin Jones)
"Dwi wedi teithio 'da Glan am ugain mlynedd a mwy ac mae rhibidirês o atgofion pleserus. Dwi'n dal i chwerthin wrth gofio amdano'n tynnu bwffe chwaethus mas o grombil y bws, a gwydred o win coch i'w olchi i lawr." (Rowland Jones MBE)
"'Na chi gymeriad - un sy wedi cyfrannu'n helaeth i fywyd cymdeithasol pentre Brynaman a thre Aberystwyth. Prynwch y llyfr a chewch fodd i fyw wrth ddarllen casgliad o hanesion difyr ac anecdotau doniol." (Geoff Edwards - cyn-Ysgrifennydd a Chadeirydd Clwb Rygbi Aberystwyth)