Ysbryd Sabrina (e-lyfr)
Dyma ddegfed cyfrol yr awdur profiadol Martin Davis. Mae Hayley yn ceisio dod o hyd i'w brawd a ddiflannodd o'r cartref bymtheng mlynedd ynghynt. Mae'r daith yn mynd â hi i Amwythig, lle mae'n cwrdd â phob math o gymeriadau brith. Ond a fyddan nhw'n ei harwain at ei brawd, Dylan? Nofel ddirgelwch, gyfoes, gan feistr ar adrodd stori afaelgar.