Adolygiadau
Cyfres o nofelau gonest, ffres, llawn cariad, sy'n grymuso lleisiau cwbl newydd mewn llenyddiaeth Gymraeg
- Manon Steffan Ros
Casgliad o straeon heriol ac arbrofol sy'n cydblethu i greu un cyfanwaith ardderchog.
- Beirniaid Gwobr Tir na n-Og 2022
Mae'r gyfres yn fwy na phum nofel yn adrodd hanes pum cymeriad; mae'n feicrocosm o gymdeithas ac o fywyd, yn enwedig o safbwynt person ifanc yn yr ysgol. Mae'n gynhwysol ac yn arloesol... Mae'r prosiect hwn yn dangos sut y gall cydweithio a chroesawu pobl nad ydynt fel arfer yn cael y cyfle i rannu eu llais arwain at gyfanwaith sy'n unigryw ac yn hudolus... Mae hon yn gyfres ar gyfer pobl ifanc, ac mae'n un werthfawr yn hynny o beth, ond nid cyfres i bobl ifanc yn unig mohoni. Mae'n berthnasol i bawb ac yn sicr o gydio yng nghalonnau darllenwyr o bob oed. Mae cyfeillgarwch y pump a'u gofal o'i gilydd yn cael ei ddarlunio mewn modd cofiadwy, a rhaid canmol yr awduron a'u cyd-awduron am greu byd yn llawn cariad ac agosatrwydd, un oren mawr fel haul canol pnawn.
- Manon Gwynant, Cylchgrawn Barn
...mae'r Pump yn radical o wahanol.
- Siwan Rosser, O'r Pedwar Gwynt
Gytud mai dim ond pump o'r Pump sydd 'ne, swni di licio darllen cant.
Cyfres wych i bobl ifainc (ac oedolion plentynaidd fel fi). Am dalent sydd o fewn y cloriau lliwgar yma. Pob llyfr mor wahanol, ond yn plethu â'u gilydd hefyd.
- Leusa Fflur, Trydar
Am lyfrau gwych i blant yn eu harddegau, rhieni & athrawon ddarllen. Cip olwg mewn i fywydau plant Cymry Cymraeg BAME, LGTBQ a dioddefwyr Iechyd meddwl. Hollol wych!
- R Chappell, Trydar
Llongyfarchiadau i bawb oedd yn rhan o dîm YPump am greu llyfrau cyfoes, emosiynol a hardd. Fyddan nhw'n adnodd dda ar gyfer pobl ifanc y dyfodol.
- Elan Elidyr, Trydar
Newydd ddarllen y gyfres hon - wedi mwynhau a chael fy nghyffwrdd gan bob un ohonynt. Syniad arbennig a chyfres mor werthfawr a chyfoes...
- Gwenan Creunant, Trydar
An innovative and ambitious project aimed at diversifying Welsh-language fiction for young people, and which pairs emerging young authors with new voices.
- New Welsh Review - Welsh Books for Young People – Our Best of 2021