Dyma hanes Dewi Prysor yn cerdded 100 mynydd uchaf Cymru. Yn ogystal â chyfarwyddiadau a disgrifiadau taith, cyfeirir at enwau, hanes a henebion y mynyddoedd, ynghyd ag atgofion a gwreiddiau teuluol. Dyfynnir cerddi a chaneuon a cheir lluniau anhygoel sy'n cynnwys ambell i olygfa annisgwyl a welwyd ar y topiau.
Mab y mynydd ydi Dewi Prysor ac yn y mynyddoedd mae ei le. Yn byw ac yn bod yn crwydro'r uchelfannau, mae'n gerddwr brwd yn ei ardal enedigol ym Meirionnydd ac yn wir, ymhob cwr o Gymru a thu hwnt. Mae ganddo gyfoeth o wybodaeth am y mynyddoedd, y llwybrau a'r creigiau yn ogystal â gwybodaeth am darddiad enwau, a hanesion am bobl a fu'n byw a gweithio ar y mynyddoedd.
I Prysor, y copaon yw pulpudau ei hunaniaeth, lle mae'r gorwel yn grwn a thonnau diddiwedd o dir yn hanes a chwedlau i gyd.