"Son, we will not be extending your contract."
Hoeliwyd y geiriau ar y co'.
Distawrwydd llethol, fy ngheg yn sych grimp, crebachais yn y gader, y freuddwyd yn ffoi...
Roedd y dyn a eisteddai o 'mlaen yn hen ben ar ysgogi ei dîm yn yr ystafell newid ond yn ei swyddfa doedd dim y gallai ei ddweud i gysuro crwtyn ifanc torcalonnus.
Yn drwsgl, llwyddais i yngan gair neu ddau yn diolch am y cyfle. Siglodd Syr Alex fy llaw yn gadarn gyda golwg o dosturi ar ei wyneb.
Caeais y drws yn dawel ar fy ôl – y gobaith o wisgo crys tîm cyntaf Manchester United bellach ar chwâl a'r byd yn cau yn dynn amdanaf. Llifodd y dagrau.
Dyma hunangofiant Rhodri Jones. Dechreuodd ei yrfa fel pêl-droediwr proffesiynol ifanc yn Manchester United rhwng 1996 a 2000, yn ystod un o'r cyfnodau mwyaf llwyddiannus yn hanes y clwb. Chwaraeodd i Rotherham ac yn Uwch Gynghrair Cymru i Gwmbrân a Chaerfyrddin, cyn ymddeol o'r gêm yn dilyn anafiadau i'w ben-glin.
Yn y gyfrol hon, ceir straeon am dalent ac obsesiwn plentyn â phêl-droed, hanesion rhyfeddol am gyrraedd yr uchelfannau yn sgil cael ei arwyddo gan un o glybiau mwya'r byd ynghyd â'r gwaelodion tywyll. Yma mae Rhodri'n siarad yn onest am yr heriau corfforol a meddyliol y mae wedi eu hwynebu.