Dyma gyfle i glywed hanes bywyd lliwgar a diddorol Huw Jones yn llais y dyn ei hun! Cewch glywed am ei fagwraeth yng Nghaerdydd, ei gyfnod yn Rhydychen, a'r cyfle a gafodd i gyflwyno rhaglenni teledu arloesol fel Disc a Dawn. Yna cawn ddilyn ei fentergarwch yn sefydlu cwmni recordio Sain, cwmni adnoddau Barcud, a'r cwmni teledu Tir Glas – i gyd yn ardal Caernarfon. Ond arweiniodd ei lwyddiant at symudiad yn ôl i Gaerdydd fel Prif Weithredwr S4C, ac yna fel Cadeirydd y Sianel. Cawn olwg ddadlennol ar frwydrau a thensiynau'r cyfnod, a chip hefyd ar feddwl miniog y dyn preifat, gan greu darlun byw o dalp o fywyd Cymru ac o hanes diweddar yr iaith Gymraeg.