Os yn archebu o’r tu allan i’r DU mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi dalu treth a chostau dosbarthu eraill ar ben ein costau postio ni.
Llun o 'Torri'n Rhydd o OCD (e-lyfr)' gan Athro Paul Salkovskis, Dr Victoria Bream Oldfield, Dr Fiona Challacombe
Llun o\'Torri'n Rhydd o OCD (e-lyfr)\'
ISBN: 9781800990166
Pris: £12.99
Cyfrwng: E-lyfr (PDF)
Iaith: Cymraeg

Torri'n Rhydd o OCD (e-lyfr)

Ydych chi'n cael eich poeni gan feddyliau, arferion a defodau ymwthiol? Fyddech chi'n hoffi adfer rheolaeth dros eich ymddygiad a threchu eich ofnau?

P'un a ydych chi'n teimlo gorfodaeth i lanhau yn fwy a mwy trwyadl, yn cael eich poeni gan feddyliau 'drwg' neu'n teimlo'r angen i wirio dro ar ôl tro a ydych chi wedi diffodd offer trydanol, mae pryderon obsesiynol yn gallu datblygu'n felltith a'ch llethu o ddydd i ddydd. Fodd bynnag, does dim angen i chi ddioddef rhagor. Mae'r canllaw ymarferol hwn gan dri arbenigwr blaenllaw ym maes therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) yn eich galluogi i wneud synnwyr o'ch symptomau ac yn cynnig cynllun clir i'ch helpu i oresgyn eich OCD.

MAE'N CYNNWYS

• gwybodaeth fanwl am y prif fathau o OCD, yn cynnwys OCD pendroni

• gwybodaeth eglur, fesul cam, am sut i drin eich problem chi drwy ddefnyddio CBT

• astudiaethau achos ac enghreifftiau go iawn

• cyngor a chymorth i ffrindiau a pherthnasau'r rhai sy'n byw gydag OCD

• sut i gadw OCD allan o'ch bywyd nawr ac yn y dyfodol

P'un a yw'ch cyflwr yn gymedrol neu'n ddifrifol, bydd yr adnodd diffiniol hwn yn eich helpu i ailafael yn eich bywyd a chadw OCD draw am byth.

ISBN: 9781800990166
Pris: £12.99
Cyfrwng: E-lyfr (PDF)
Iaith: Cymraeg