Goresgyn Gorbryder (e-lyfr)
Dysgwch sut i feistroli'ch gorbryder gan ddefnyddio technegau CBT sydd wedi ennill eu plwyf.
Rydyn ni i gyd yn gwybod sut deimlad yw gorbryder:mae'n rhan anochel o fywyd. I rai ohonon ni, fodd bynnag, mae pyliau o banig, ffobiâu, obsesiynau neu bryderon cyson yn gallu cael effaith andwyol ar ein hunanhyder, ein perthynas ag eraill a'n llesiant cyffredinol.
Mae'r canllaw hunangymorth hwn yn dangos i chi sut i ddefnyddio technegau therapi ymddygiad gwybyddol (CBT: cognitive behavioural therapy) i reoli'ch gorbryderon. Profwyd bod CBT yn hynod effeithiol wrth drin gorbryder, a bydd yn eich helpu i ddeall beth sydd wedi ei achosi, beth sy'n ei gynnal ac, yn hollbwysig, sut i adfer rheolaeth arno.