Nod ABC Dementia yw helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau, hyder a dealltwriaeth o ddementia er mwyn cefnogi'r rhai sydd â dementia i fyw'n dda.
Mae'n dechrau gyda'r namau gwybyddol a'r clefydau sylfaenol ar yr ymennydd sy'n ddiffinio dementia, cyn symud ymlaen at asesu diagnostig ac ymyrraeth gynnar. Canolbwyntir ar brofiadau pobl â dementia a'u teuluoedd, gan amlygu'r daith o ddiagnosis i ddiwedd bywyd. Mae hyn yn cynnwys rôl gofal person-ganolog a'r dewisiadau therapiwtig cyfyngedig sydd ar gael.
Ceir penodau gwahanol sy'n ymdrin â dementia mewn lleoliadau ysbyty aciwt, gofal cychwynnol, a gofal i'r rheini sydd â heriau sylweddol, yn ogystal ag anghenion penodol pobl iau sy'n datblygu dementia. Amlinellir hefyd gyd-destun moesegol a chyfreithiol gofal dementia.
Ysgrifennwyd ABC Dementia gan dîm amlddisgyblaethol ac mae'n adnodd gwerthfawr i ymarferwyr, meddygn teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy'n gofalu am bobl sy'n byw gyda dementia a chyflyrau tebyg. Mae hefyd yn addas i seicolegwyr, geriatregwyr, nyrsys arbenigol, nyrsys practis a staff cartrefi nyrsio.