Mae Cymru, â'i Senedd a'i hawl i ddeddfu, eisoes ar daith tuag at annibyniaeth.
Y camau nesaf yw pwnc yr adroddiad hwn. Mae'n mynnu y dylai Cymru annibynnol ymgeisio i fod yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, gan ymaelodi yn y lle cyntaf o bosibl â'r Ardal Fasnach Rydd Ewropeaidd. Mae'n argymell hefyd y dylai Cymru archwilio perthynas gydffederal â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae'n dadlau o blaid newid dull gweithredu Llywodraeth Cymru a'r gwasanaeth sifil, yn dangos sut i fynd ati i lunio Cyfansoddiad i Gymru ac yn disgrifio fframwaith i'r Bil Hunan-Benderfynu er mwyn bwrw ymlaen â phroses annibyniaeth. Dylai Comisiwn Cenedlaethol statudol gynnig dealltwriaeth glir i bobl Cymru ynghylch yr opsiynau ar gyfer eu dyfodol cyfansoddiadol. Byddai gan Reithgorau Dinasyddion a fyddai'n adlewyrchu holl sbectrwm bywyd Cymru fewnbwn allweddol. Dylai refferendwm cychwynnol roi prawf ar ystod o opsiynau cyfansoddiadol, a defnyddio deilliant hwnnw wedyn i annog Llywodraeth y DU i gytuno i refferendwm deuaidd pellach. Byddai pobl Cymru felly yn dewis rhwng y status quo a'r hoff ddewis yn y refferendwm cychwynnol.