Creadur bach direidus a hudol yw'r Bwbach sy'n gwarchod ei fwthyn gwag, tra'n dyheu am y diwrnod y bydd teulu yn byw yno unwaith eto. Pan ddaw pobl ddieithr i weld y bwthyn, mae'n credu y bydd ganddo deulu newydd o'r diwedd, ond ei ddatgymalu a'i symud oddi yno, garreg wrth garreg, a wnaiff yr ymwelwyr! Mae ei ddiflaniad yn gadael y Bwbach yn ddigartref ac yn gwanhau ei bwerau hudol.
Mae Brennin Annwn yn dweud wrtho am deithio I fai Ffagan, ger Caer Didius. Ar ei daith dros dir ac o dan dŵr mae'n cael help anifeiliaid ac adar, plant ysgol ac anghenfil o'r enw y Dŵr-lamwr!
A wnaiff y Bwbach bach gyrraedd tai Ffagan? A beth sydd yno yn ei ddisgwyl?
(Hefyd ar gael yn Saesneg fel "The Lonely Bwbach")