Bananabeeyumio
Pentref bach gyda chyfrinach yw Cwmbach: cyfrinach sbringar a blasus. A phan mae Charlie bach yn gollwng y gath o'r cwd ar ddamwain, bydd yn rhaid iddo roi ei fedrau athletig a'i onestrwydd ar brawf er mwyn cadw'r gyfrinach a'i bentref yn saff. Ond mae cymdogion drwg a throseddwyr barus ar y ffordd... A fydd Charlie yn llwyddo?