Hunangofiant diymffrost a geir yma, ond hawdd gweld drwy'r gwleidydd-dra i Emyr Jenkins chwarae rhan bwysig fel strategydd dawnus ym myd y "pethe" yng Nghymru, a hynny ar adegau arwyddocaol ym mywyd y genedl.
Bu'n flaenllaw yn yr ymgyrch i sefydlu Mudiad Ysgolion Meithrin, a hynny'n arwain at gynnydd sylweddol yn y galw am addysg Gymraeg. O dan ei arweinyddiaeth, proffesiynolwyd gweinyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ac ef hefyd yw'r Cymro Cymraeg olaf, hyd yma, i arwain Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mynna'r awdur nad cofnod hanesyddol yw hwn, ond ceir cipolwg difyr iawn ar ddigwyddiadau allweddol yn hanes ein cenedl yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif, drwy atgofion un a fu yno - ynghanol pethe go iawn.