Pan mae tri byd yn taro yn erbyn ei gilydd, ydy unrhyw beth yn gallu aros yr un fath? Dydy Alfan ddim yn deall i ddechrau pam mae'r Siwan gyfoethog yn dangos diddordeb ynddo fo, pan mae o'n byw ar y stryd a heb ddim byd i'w gynnig iddi hi. Mae hi'n gofyn iddo ddod am benwythnos yng nghefn gwlad Cymru a mynd i barti teuluol. Mae o'n cytuno ac yn penderfynu ei bod yn well peidio holi gormod. Ond pan mae o'n cyfarfod ei brawd, Cai, daw Alfan i sylweddoli nad ydy bywyd mor syml â hynny. Yn ystod y penwythnos, daw cyfrinachau i'r wyneb sy'n clymu'r tri am byth.