Yn awr ac yn y man cyhoeddir cyfrol sydd fel petai'n camu'n ôl yn rhwydd ac yn llwyr i'r gorffennol, gan dywys y darllenydd gyda hi yn llawen. Cyfrol felly yw Bachgendod Issac, disgrifiad Derec Llwyd Morgan o'i fore oes ar 'y Cefen' sef Cefn-bryn-brain, ar y ffin rhwng Shir Gâr Morgannwg. Cerddwn ar hyd hewlydd y pentref gan ddod I adnabod ei bobl, a hynny drwy lygaid y crwt disglair penfelyn yr oedd ei ddyfodol - y pryd hwnnw - yn bell bant oddi wrtho.