Cyfoeth a chyfaredd y Gymraeg rhwng dau glawr sydd yn y gyfrol hon. Ceir yma gasgliad o ymadroddion a diarhebion difyr, doniol, dychanol a difrïol o Fôn i Fynwy ac o Ben Llŷn i Bont-siân. Bu Mary Wiliam yn cofnodi ein hiaith lafar ers dros ddeugain mlynedd, ac mae ei brwdfrydedd yn heintus. Mae pynciau mawr bywyd yma i gyd - teulu, gwaith, caru, cecru, arian ac angau - ac yn dod yn fyw drwy ein gwahanol ffyrdd o'u mynegi. Mae llawer o resymau pam rydyn ni'n trysori'r Gymraeg, ac mae cynnwys y llyfr hwn yn eu plith. Cymerwch gip hwnt ac yma neu darllenwch y llyfr ar ei hyd - byddwch yn siŵr o'i fwynhau a dod yn fwy toreithiog eich sgwrs hefyd.