Yng nghanol storm o fellt a tharanau, mae carafán sipsiwn yn cyrraedd comin Glanrhyd. Ond pwy oedd i wybod fod y noson honno yn mynd i fod mor dyngedfennol yn hanes Tom Boswel ac Alff, ei dad-cu?
Wrth orwedd yn wlyb domen yn y garafán, daw Alff, yr hen sipsi, i sylweddoli fod y diwedd wedi dod.
O hynny ymlaen, yn unig ac amddifad, mae'n rhaid i Tim wynebu'r byd mawr ar ei ben ei hun...