Bolycs Cymraeg
Does dim sicrwydd ynglŷn â phwy yn union yw Bolycs Cymraeg. Cred rhai mai enaid arallfydol sy'n trigo ymysg niwloedd a llynnoedd Eryri ydyw, tra bo eraill yn credu mai gyrrwr lorri canol oed o ochrau Croesollwallt ydi o. Ond un peth a erys yw'r ffaith nad oes syndod bod cyfraniad Bolycs Cymraeg at ddiwylliant Cymru ac at godi proffeil y wlad ar lwyfan ryngwladol yn cael ei gymharu â'r hyn a gyflawnwyd gan Dylan Thomas, Owain Glyndŵr a Ray Reardon, pencampwr snwcer y byd 1970, 1973, 1974, 1975, 1976 a 1978.