Falle'ch bod chi'n meddwl eich bod chi'n gwybod pwy yw Bryan 'yr Organ' Jones. Y boi doniol 'na sy'n whare'r organ yn wyllt fel tase dim fory; y boi sy'n gweiddi ar y sgrin deledu wrth gefnogi Cymru'n chwarae rygbi nes bod yr awyr yn ddu las! Ond dim ond tamed o'i stori yw hynny... Mae gan Bryan dipyn o hanes i'w ddweud a hwnnw'n cymryd sawl tro annisgwyl ar hyd y ffordd. O Gasnewydd i Felin-fach, bu'r daith yn un lliwgar ac mae'n dal i fod. Mae'n stori ddoniol, wrth gwrs ond mae yna ddwyster yn gymysg â'r hiwmor hefyd.