Rhwng y Silffoedd (e-lyfr)
"Mae damwain echrydus wedi digwydd. Neithiwr. Ac ar fy mhatsyn i 'fyd – yn y brif Lyfrgell!"
Pan mae corff yr Is-Ganghellor yn cael ei ddarganfod ar gampws Prifysgol Aberacheron mae sawl un o dan amheuaeth. Dyma'r dyn doeth oedd yn amlwg am "resymoli" adrannau, gadael staff ffyddlon i fynd a chynllunio i agor campws yn Indonesia. Ond wrth i'r ymchwiliad fynd yn ei flaen, gyda Dr Llŷr Meredydd o'r Adran griminoleg a'r Llyfrgellydd, Menna Maengwyn, wrth y llyw, daw sawl cyfrinach i'r wyneb.
Nofel gampws glyfar a ffraeth gan y cyn-Lyfrgellydd Cenedlaethol, Andrew Green. Mae'n dilyn hynt darlithwyr a myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberacheron ac yn llawn sylwadau dychanol am fyd addysg a bywyd y dref.