Mae bywyd yn gallu bod yn ddidrugaredd, yn orffwyll ac yn flinderus – ond does dim rhaid i bethau fod fel hyn.
Mae Meddylgarwch yn cynnig cyfres o ymarferion syml ond pwerus i chi eu hymgorffori yn eich bywyd bob dydd er mwyn eich helpu i dorri'r cylch o orbryder, straen, anhapusrwydd a lludded. Mae'n gymorth i hybu joie de vivre go iawn; y math o hapusrwydd sy'n treiddio i fêr eich esgyrn ac yn caniatau i chi wynebu treialon gwaethaf bywyd gyda gwroldeb newydd.
Mae'r llyfr yn defnyddio therapi gwybyddol sy'n seiliedig ar feddylgarwch (MBCT: mindfulness-based cognitive therapy), a gafodd ei ddatblygu ar y cyd gan yr Athro Mark Williams o Brifysgol Rhydychen ac eraill. Caiff ei argymell ym Mhrydain gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), ac mae'n driniaeth sydd yr un mor effeithiol â chyffuriau ar gyfer atal iselder. Ond mae'n gweithio yn ogystal i'r gweddill ohonom sy'n cael trafferth ymdopi â galwadau di-baid yr oes sydd ohoni, er nad oes iselder arnom.
Drwy fuddsoddi ychydig funudau bob dydd, gallwch ddysgu'r myfyrdodau meddylgarwch sym sydd wrth wraidd MBCT. Cewch eich synnu pa mor fuan y byddwch chi'n ôl wrth y llyw ac yn gallu mwynhau bywyd unwaith eto.
Dilynwch y rhaglen meddylgarwch wyth wythnos ar y CD sy'n cyd-fynd â'r llyfr hwn neu ewch i www.ylolfa.com/meddylgarwch