Adolygiadau
Nofel fywiog a gafaelgar, â'i stori ddirdynnol yn llifo fel afon trwyddi.
- Dewi Prysor
... cwpwl o bennodau mewn i'r stori ffeindiais fy hun yn uniaethu mwy a mwy gyda [Lowri, y prif gymeriad], gan sylweddoli fod y teimlad o rhwystredigaeth 'na'n fwy agos at fywyd go iawn nag unrhywbeth arall dwi 'di ddarllen ynddiweddar. Fydd bywyd ddim yn berffaith- dyna beth gofiais i wrth ddarllen... Nofel andros o realistig yw Twll Bach yn y Niwl - mae'n stori sy'n gwrando arnon ni'n cwyno ar ôl diwrnod hir, ac yna'n adrodd stori embarrassing i wneud i ni deimlo'n well.
- Gwefan Y Stamp
Heb os, mae'r nofel yn un dwys a chignoeth ond ysgafn ac yn hawdd i'w ddarllen. Dyma nofel hollol unigryw, a nid oes nofel Gymraeg tebyg wedi'i hysgrifennu. Mae'n fywiog, yn llifo'n fendigedig, yn onest, doniol, torcalonnus a chyffrous i gyd ar yr un pryd.
- Llio Non, Son am Lyfra
Llongyfarchiadau Llioelain - wedi gwenu, chwerthin a gwingo, a dyna'r diweddglo perffaith!
- Bethan Gwanas, Trydar
Llyfr y flwyddyn i fi! Nofel hollol realistig a mor hawdd uniaethu hefo Lowri. Gobeithio gawn ni wybod be sy'n digwydd nesa iddi hi a'r criw!
- Cadi Rhys, Trydar
Dwisio gallu sgwennu fel Llio Elain! Mae Twll Bach yn y Niwl yn nofel a hanner. Dwi ddim yn cofio nofel Gymraeg arall yn disgrifio bod yn ifanc ac ar goll mewn ffordd mor real.
- Mair Jones, Trydar
Pleser pur... cyfoes, hollol gredadwy... Mae Lowri'n gymeriad cymhleth, fel pawb. Mae'n grac, mae'n hunanol, mae'n anghyfrifol. Ond mae hefyd yn ddoniol, hynny yw mae'n ferch tro dimensiwn.
- Lowri Cooke, Y Silff Lyfrau, BBC Radio Cymru