Dyma gasgliad cynhwysfawr o 62 o gerddi ac englynion yn clodfori Waldo Williams, un o'n beirdd pwysicaf.
Mae yma gorff o ganu mawl mewn amrywiaeth o fesurau: cywyddau, englynion, detholiad o awdl, sonedau, telynegion, cerddi vers libre a chanu rhydd odledig. Cawn olwg hefyd ar un gerdd Saesneg nodedig yn ogystal â chyfle i flasu tafodiaeth bersain bro'r Preseli.
Yn ôl golygydd y gyfrol, Eirwyn George, a gafodd y fraint o adnabod Waldo ym mlynyddoedd olaf ei oes, diddordeb personol oedd y cymhelliad i fynd ati i chwilio am ddeunydd ar gyfer cyhoeddi blodeugerdd goffa iddo.
Bardd oedd ef a burodd iaith,
Fardd hoffus y fro ddiffaith;
Daioni oedd, a wad neb
I Waldo anfarwoldeb?
James Nicholas