Hunangofiant un sydd wedi bod wrth galon rhai o'r datblygiadau a'r penderfyniadau pwysicaf yn hanes y diwylliant Cymraeg.
Yma, mae Huw Jones yn cofio'n ôl i'w fagwraeth yng Nghaerdydd, i astudio'n Rhydychen a chyflwyno Disc a Dawn, a'i benderfyniad i symud i fyw i Landwrog. Mae'n hel atgofion am rôl y gân yn ei fywyd – o ryddhau recordiau i sefydlu cwmni Sain, gan groniclo'r methiannau a'r llwyddiannau ar hyd y blynyddoedd.
Mynegir barn yn ddiflewyn-ar-dafod am weithio ym myd teledu ac adroddir straeon am gychwyn Teledu'r Tir Glas a Barcud, ac yna, ei waith fel Prif Weithredwr S4C a Chadeirydd y sianel maes o law, a hynny mewn cyfnodau heriol i'r byd teledu. Ochr yn ochr â golwg ar feddwl y dyn preifat y tu ôl i'r wyneb cyhoeddus, ceir yma ddarlun byw o dalp o fywyd Cymru ac o hanes diweddar yr iaith Gymraeg.