Pan mae ffrindiau Gwenyn yn diflannu, dim ond un lle sydd i droi. Ond pwy yw'r criw cyfrinachol sydd wedi bod yn aros mor hir i helpu anifeiliaid Cymru?
Ydy pwerau arbennig Criw'r Coed yn mynd i ddatrys dirgelwch y gwenyn coll?
Gyda lluniau llachar a chymeriadau cofiadwy, bwriad y llyfr yw agor llygaid plant i fyd natur a'u gwneud nhw'n ymwybodol o'r problemau mae'r blaend yn eu hwynebu.
Dyma sbardun ardderchog i feithrin plant i fod yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus, sef un o'r pedwar diben sydd yn sail i'r cwricwlwm newydd.