Tylwyth
Mae Aneurin wedi bod yn dianc rhag ei orffennol, ond mewn tro annisgwyl, diolch i Grindr - mae e wedi syrthio mewn cariad. Pan mae Dan ac yntau'n penderfynu mabwysiadu plentyn, mae'r ddau ohonynt ar ben eu digon. Ond wrth addasu i fywyd fel tad, a throi cefn ar orffennol gwyllt, mae ofnau duaf Aneurin yn dychwelyd.