Rhwng y Silffoedd
Nofel 'gampws' ysgafn gan gyn-lyfrgellydd y Llyfrgell Genedlaethol Andrew Green. Mae'n dilyn hynt darlithwyr ym Mhrifysgol Aberacheron sy'n ymdebygu i brifysgol amlwg yn Ne Cymru, ac yn llawn sylwadau crafog a dychanol am fyd addysg a bywyd y dref. Mae hefyd yn nofel ddatrys a dirgelwch, gyda sawl cymeriad yn dod o dan amheuaeth o lofruddio'r is-ganghellor.