Dal y Mellt (elyfr)
'Sugno yr ola o'i smôc tu allan i ddrws y Canton oedd Carbo pan dynnodd Fford Capri o'i flaen. Fel y gwyrodd at ffenast y car, daeth braich allan a chydio am ei war. Doedd ei bupur gora ynta ddim yn ddigon cry i daflu'r cwn yma oddi ar ei lwybr.' Yng nghwmni Carbo, Mici, Les, ac eraill eir ar wib rhwng Caerdydd, Caergybi, Llundain a Dulyn i ddial am hen gamwedd.