Dweud stori ydy'r ffordd hynaf o ddysgu y gwyddom amdani, ac efallai'r orau. Mae'r seicolegydd clinigol Graham Stokes yn tynnu ar ei atgofion o bobl sydd â dementia y mae wedi cyfarfod â nhw. Trwy gyfrwng 22 o storiau grymus, mae'n ein helpu i ddeall y cyflwr yn well ac i ddeall ymddygiad rhai o'r bobl. Yn aml mae'r hanesion yn stori o fewn stori.
Mae'r storiau yn digwydd gartref, mewn cartrefi gofal ac mewn ysbytai. Y thema ganolog yw bod pawb sydd â dementia yn unigryw, â phersonoliaeth a phrofiadau neilltuol. Yr unig ffordd y gallwn ymateb i'w hanghenion unigryw a rhoi'r gofal gorau posibl iddyn nhw yw trwy dreiddio ymhell i hanes pawb yn unigol – fel y byddai ditectif yn ei wneud, bron iawn.
Mae'r llyfr hwn i bawb – gweithwyr proffesiynol a gofalwyr o blith y teulu fel ei gilydd – sydd am wybod rhagor am ddementia. Gan fod y cyflwr yn effeithio ar fywydau cynifer o bobl erbyn hyn, bydd y gyfrol hon o fudd hefyd i'r rheini sy'n dymuno deall dementia. Gyda'i harddull rwydd, bydd darllenwyr yn methu rhoi'r gorau i'w darllen – mae'n llawn gwybodaeth a dirnadaeth ac yn cyffwrdd â'r galon.