Antur Wyllt Bolgi / Bolgi's Wild Adventure
Ymuna gyda Bolgi a'i ffrindiau wrth iddyn nhw fynd ar antur natur drwy'r goedwig.
Mae'r stori yn dilyn Bolgi, ci bach ac un o ffrindiau Cyw, wrth iddynt fynd am dro yn y goedwig a dilyn cliwiau ar drywydd gwahanol anifeiliaid. Mae'r daith yn digwydd yn yr hydref, ac mae holl liwiau godidog yr hydref yn cael eu dangos yn narluniau hyfryd y llyfr hwn.
Mae'r llyfr yma yn ddwyieithog.