Sut deimlad oedd darlledu'n fyw ergyd carreg o burfa olew mewn perygl o ffrwydro, cael galwadau ffôn ganol nos gan Feibion Glyndwr a hela tyfwyr cyffuriau mewn jyngl yng nghanolbarth America? O sgwrsio gyda chyn-arlywydd America mewn capel yng Nghymru i bron â chael damwain car gyda'r Tywysog Siarl – mae Alun Lenny yn ein bwrw i ganol y stori.
Hunangofiant difyr sy'n dilyn un o newyddiadurwyr radio a theledu mwyaf profiadol Cymru yn ystod newidiadau enfawr yn ein hanes, tan i'r holl ruthr gael effaith ddifrifol ar iechyd Alun, ac sy'n rhoi hanes yr adferiad corff ac enaid a roddodd iddo flas newydd ar fywyd.
"Roedd bron bob dydd yn rhythr gwyllt o fyw ar yr hewl ac ar adrenalin... Bu'r cyfan bron â'm lladd."