Mae ardal Sir Conwy yn llawn chwedloniaeth... yr hen draddodiad o adrodd stori wedi sicrhau bod hanesion a dirgelion yn rhan o hunaniaeth pob bro. A rhai wedi eu trosglwyddo o niwl y dyddiau cynnar, mae'r chwedlau yma'n fyw ac yn dal i ysgogi a difyrru.
Pa ddewis gwell felly ar gyfer y sesiynau "Stori Cyn Cinio" yn y Babell Lên na chyflwyno rhai o'r hanesion hyn i bawb eu mwynhau? Ar ôl cael cyfle i wrando ar yr awduron yn ystod wythnos yr Eisteddfod, dyma gasglu'r chwedlau ynghyd mewn trysor o gyfrol i'w darllen wedyn, gyda chyfraniadau gan Eigra Lewis Roberts, Ceri Elen, Sian rees, Catherine Aran, Criw Sgwennu Bys a Bawd (Ceri Wyn Davies, Glenys Tudor Davies, Margiad Davies, Iona Evans, Delyth Wyn Jones, Dwynwen Berry), Eiddwen Jones, Beryl Steeden Jones a john ffrancon Griffith.