Mali
Storiau am gi bach ar y fferm
Cyfrol hyfryd, llawn lliw. Mae 4 stori am Mali'r ci, sy'n byw ar fferm. Mae pob stori'n canolbwyntio ar un tymor ac felly cawn ddilyn y tymhorau trwy galendr y byd amaethyddol. Mae'n Gymreig iawn ei naws, ac yn cyflwyno'r plant i ddywediadau a chwpledi e.e. Ebrill, tywydd teg a ddaw, gydag ambell gawod law. Bydd rhestr geirfa a geiriau caneuon ar ddiwedd y gyfrol.