Pedwaredd Rheol Anhrefn
Nofel gyfoes ffraeth â llinyn storïol gref. Mae'n ddilyniant i'r nofel Tair Rheol Anhrefn a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen, 2011. Ond bydd y llinyn storïol yn sefyll ar ei draed ei hun. Fe fyddwn yn ailymuno a Dr Paul Price a'i gariad, Llinos Burns wrth iddyn nhw geisio dianc rhag yr heddlu cudd a brwydro â'u cydwybod dros y cwestiwn o greu drôns.