Ynys Fadog (elyfr)
Mae Ynys Fadog yn epig uchelgeisiol sy'n darlunio hynt cymuned Gymreig yn America. Ceir ynddi banorama, yn ymestyn o'r flwyddyn 1818 i 1937 - o gyfnod y mae sawr y ddeunawfed ganrif arno hyd at arlywyddiaeth Franklin D Roosevelt a Dirwasgiad Mawr y 1930au.