Mae'r gyfrol hon yn cynnig portread cyffrous newydd o'r athrylithgar Iolo Morganwg, un o'r cymeriadau mwyaf creadigol ac amryddawn a welwyd erioed yng Nghymru.
Gwrthryfelwr wrth natur oedd y saer maen tlawd a hunanaddysgiedig hwn, ciciwr yn erbyn y tresi ac un na allai wenieithio na chowtowio i neb. Roedd yn ffugiwr llenyddol penigamp, yn fardd godidog, yn weriniaethwr tanbaid, yn weledydd ysbrydoledig o ran dyfodol Cymru a'r Gymraeg, yn Undodwr digymrodedd, yn elyn pennaf i ryfelgarwch a chaethwasiaeth, ac yn gyfaill triw i'r tlawd a gorthrymedig.
Dyma gofiant meistrolgar a darllenadwy i un o arwyr y genedl gan hanesydd disglair ac un o'i edmygwyr mwyaf, Geraint H. Jenkins.