Cerdded Mewn Cell (elyfr)
Casgliad o dair ar ddeg o straeon gogleisiol a ffraeth gan awdur digamsyniol ei ddawn. Fel y disgwylid gan ddychymyg rhyfeddol Robin Llywelyn, mae'r storïau yn fywiog, yn wreiddiol ac yn annisgwyl, yn dyner ac yn drist. Dyma ei gyfrol gyntaf ers cipio Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd yn 2004.