Cyfres y Melanai: Y Diffeithwch Du
Mae'r nofel yn olrhain hanes Efa, sy'n dywysoges ar y Melanai, ar ôl iddi hi a'i ffrindiau ddianc o'r Palas rhag iddi orfod lladd ei mam, y frenhines, yn dilyn traddodiad y wlad. Maen nhw wedi cyrraedd Y Diffeithwch Du sydd yn llawn peryglon ac yn cwrdd â chawr o'r enw Id, a nifer o anifeiliaid a sefyllfaoedd peryglus a heriol. Ail deitl mewn trioleg ar gyfer yr arddegau cynnar.