Adolygiadau
Gafaelodd y nofel hon ynof o'r frawddeg gyntaf.
- Manon Rhys
Mae Manon Steffan Ros yn dod yn agos at berffeithrwydd yn y nofel hon.... Dynol. Darllenadwy. Deifiol.... Credwch yr heip.
- Llwyd Owen
"Dwi'n credu mai dyma'r gyfrol Fedal Ryddiaith fuddugol sydd wedi cael y fwya o sylw ers rhai blynyddoedd.... Oes modd credu'r heip? Wel, mewn gair, oes. Dyma nofel fel, ysgytwol a brawychud o berthnasol."
- Elen Ifan, Blog Lico Llyfre Lot
Mae'n gyfrol fer ond yn un sy'n ffrwydrad (dwi'n ymwybodol o'r eironi) o emosiwn amrwd ac ysgrifennu craff.
- Mwnaimwnai, Blog Mwnaimwnai
"[Y] nofel fwyaf arwyddocaol i ennill y Fedal ryddiaith ers cryn amser'
- Dafydd Morgan Lewis, Cylchgrawn Barn Gaeaf 2018
Sai eriod 'di gweld nofel Gymraeg yn cael gwmynt o ymateb cadarnhaol ar y cyfrynge cymdeithasol â beth mae Llyfr Glas Nebo wedi'i chael ers iddi ennill y Fedal Ryddiaith yn y Steddfod. A ma 'na rheswm pam. Alla i wirioneddol weud mai co un o'r nofele gore dw'i erioed wedi'i darllen… Am nofel afaelgar, agos-atoch, annwyl, cynnil ond pwerus. Mae'r ffordd y ma'r nofel wedi ei gosod yn hynod apelgar ac yn gwneud y darllen mor rhwydd… Dyma noefl arbennig iawn, ac un a wnaeth gydio o'r cychwyn cynta'. Alla i ddim argymell ei darllen hi ddigon – mae'n wych ym mhob ffordd a mor rhwydd i ddarllen.
- Sioned Haf Thomas, Cylchgrawn Y Stamp
Mae Llyfr Glas Nebo yn waith syfrdanol sy'n rhwym o adael ei ôl ar bob darllenydd…Mae'n nofel hawdd i'w darllen, ond y peth anodd amdani yw beth mae'n ei wneud i'ch calon.
- Bethan Mair, Golwg
"... A novel that you can read in one sitting, and probably will, telling the instantly-absorbing tale of a one-parent family... the truth is revealed slowly in a way that keeps you on tenterhooks."
- Ifan Morgan Jones, Llyfr Glas Nebo
"Mae Llyfr Glas Nebo yn gampwaith! Mor gynnil, annwyl, clyfar, agos-atoch. Popeth sydd ei angen mewn nofel. Llongyfarchaidau mawr iawn Manon Steffan Ros – wir dan deimlad wedi mi orffen darllen, ychydig iawn o lyfrau sy'n gwneud hynny i mi!"
- Fflur Dafydd, Trydar
Wedi darllen hon o'r dechrau i'r diwedd mewn cwpwl o oriau heno ond mi arhosith hi efo fi am byth.
- @GwefusCymru, Trydar
"Y nofel berffaith."
- Gareth Miles, Trydar
Waw. Jyst... waw. Plis darllenwch, hyd yn oed os nad ydych chi'n darllen Cymraeg fel arfer. Mae'r geiriau'n ddigon hawdd. Yr hyn mae hi'n ei wneud i'ch calon sy'n anodd.
- Bethan Mair, Trydar (cyfrif @geiriau)
Môr o gariad mewn byd ôl apocaliptig. Dwi ddim yn cofio'r tro diwethaf i mi ddarllen llyfr mewn un eisteddiad. Campus. Diolch
- Tim Hartley, Tydar
"Dyma gyfrol fer, ond un sy'n llawn i'r ymylon. Ydy, mae'n hawdd ei darllen, ond mae'n codi cwestiynau am flaenoriaethau ein hoes a'n ffordd o fyw nad oes iddynt atebion hawdd o fath yn y byd."
- Catrin Beard, Western Mail Week End
"Un o'r nofelau mwyaf ysbrydol i'w chyhoeddi ers blynyddoedd."
- Arwel Rocet Jones, Y Goleuad
"Y cwestiwn y mae'r gyfrol yn eu gofyn yw beth mewn gwirionedd yw hanfod bywyd, ac beth yw pwrpas byw....[erbyn diwedd y nofel] fe welir mai un ateb sydd i'r cwestiynau i gyd: beth yw pwrpas bywyd, beth yw hanfod bywyd, beth yw gwirionedd. Yr ateb bob tro yw cariad."
- John Gwilym Jones, Y Tyst - rhan o e-fwletin Cristnogaeth21, 2 Medi 18
"This is a story of all time, and none... [a] passionate and exciting book that stay[s] in the mind.
- Mary Lloyd Jones, Planet: The Welsh Internationalist (Summer 2019)