Ysbryd yr Oes
Nofel ddramatig am ddau John a'r stori'n symud yn ôl ac ymlaen ar wib rhwng y gorffennol a'r presennol: John Penry, y merthyr Piwritanaidd, a John Williams, athro hanes mewn ysgol gyfun Gymraeg yng Nghaerdydd heddiw.
Mae'r ddau yn wyr ac yn dadau cariadus sy'n wynebu penderfyniadau a allai newid bywydau eu teuluoedd am byth.
Enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen 2018