Nid gormodiaith yw dweud mai Grav oedd un o gymeriadau mwyaf Cymru erioed. Ddegawd ers ei golli, mae'r atgofion amdano dal yn fyw. Yn y gyfrol hon ceir storiau amdano wedi'u dwyn at ei gilydd gan Rhys Meirion. Ar ôl holi cyfeillion, cydweithwyr a'r teulu daeth i'r casgliad fod gan bron pawb eu "stori Grav".
Yn y llyfr hwn ceir amrywiaeth o storiau, y rhan fwyaf heb eu cyhoeddi o'r blaen – yn rhai personol yn dangos ei garedigrwydd di-ben-draw, rhai doniol yn amlygu'r diffyg hyder rhyfeddol yn ogystal â'r hyder cyferbyniol. Ceir storiau di-rif am ei ysbryd cellweirus a'i ddynoliaeth chwedlonol.
Ceir hanesion amdano fel chwaraewr rygbi i Lanelli, Cymru a'r Llewod gan nifer o'r sêr fel Gareth Edwards, Phil Bennet, Gerald Davies a Clive Rowlands. Ceir hefyd hanesion amdano fel dyn teulu gan Mari, Manon a Gwenan a storis gan ffrindiau a chydweithwyr oedd wrth eu bodd gyda'i hwyl heintus a gyffyrddodd gymaint o bobl.