Cot sy'n newid bywyd... cegin gawl sy'n rhoi gobaith...a'r Fari Lwyd yn codi ofn...
Straeon byrion difyr tu hwnt gan rai o awduron gorau Cymru. Mae'r iaith yn addas ar gyfer oedolion lefel Uwch sy'n dysgu Cymraeg, ac mae geirfa ar gyfer pob stori.
Cyfres amdani – cyfres newydd gyffrous o lyfrau darllen yn arbennig ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg.
Mae'r llyfrau wedi eu graddoli ar bedair lefel – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
Bydd y gyfres hon yn llenwi'r bwlch trwy roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau a themâu cyfoes.
Mae yma enwau adnabyddus ym maes ysgrifennu i ddysgwyr: Mared Lewis a Sarah Reynolds. Ymhlith yr awduron eraill, Euron Griffith, Dana Edwards, Ifan Morgan Jones, Mihangel Morgan, Cefin Roberts a Lleucu Roberts, mae sawl un wedi ennill gwobrau cenedlaethol.