"Pan dw i'n gwisgo fy nillad arferol, dillad dyn, dw i'n mygu. Ond dim jyst yn y dillad. Dw i'n mygu tu mewn i fy nghorff i fy hun."
Mae Sam yn athro mewn ysgol ac yn hyfforddwr y tîm pêl-droed. Ac mae ganddo gyfrinach.
Nofel gyffrous am bwnc sensitif.
Cyfres amdani – cyfres newydd gyffrous o lyfrau darllen yn arbennig ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg.
Mae'r llyfrau wedi graddoli ar bedair lefel – Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch.
Bydd y gyfres hon yn llenwi'r bwlch trwy roi cyfle i ddysgwyr Cymraeg fwynhau darllen am amrywiaeth o bynciau a themâu cyfoes.