Little Honey Bee
Mae Elsi yn byw gyda'i mamgu, sy'n cadw gwenyn. Wrth ddilyn y gwenyn a sylwi ar bopeth sy'n digwydd yn yr ardd dros gyfnod o flwyddyn, daw Elsi i garu pob tymor yn ei dro. Cyfrol hardd, clawr caled sy'n cynnig cyfle i blant ddysgu am y byd o'u cwmpas drwy gyfrwng stori delynegol Caryl Lewis a lluniau hudolus Valériane Leblond.