"Llefain. Ac nid llefain torcalonnus. Crio isel poenus, gofidus. Crio rhywun mewn perygl... Roeddwn i wedi cael fy nychryn o'r blaen ond y tro hwn aeth y swn drwy fy ngwaed."
Un noson hir o aeaf, mae dau hen ffrind yn cwrdd ar daith drên.
Mae gan Merfyn stori iasoer i'w rhannu, un sy'n dechrau gydag etifeddu clamp o dy ar ôl ei fodryb, yr awdures enwog Mona Moffat. Mae ef a'i bartner, Harry, yn breuddwydio am adnewyddu'r hen le ac ymddeol a fywyd gwyllt dinas Llundain... ond wrth i Merfyn godi'r clawr ar orffennol ei deulu mae gwirioneddau erchyll yn bygwth eu rhewi hyd at fêr eu hesgyrn.
Stori ysbryd iasoer gan un o awduron mwyaf poblogaidd Cymru.