Flame in the Mountains (ebook)
Emynyddiaeth yw un o binaclau llenyddiaeth Gymraeg. Yn y gyfrol hon, mae'r Athro E. Wyn James, arbenigwr cydnabyddedig ar emynyddiaeth Cymru, yn tynnu ynghyd draethodau'r diweddar Athro H. A. Hodges am William Williams, Pantycelyn, Ann Griffiths a'r emyn yng Nghymru. Cynhwysir hefyd ei gyfieithiadau Saesneg o emynau a llythyrau Ann Griffiths ynghyd â'i nodiadau anghyhoeddedig arnynt.