Gwynoro a Gwynfor
Llyfr am un o'r cyfnodau mwyaf diddorol a chythryblus yn hanes gwleidyddol yr ugeinfed ganrif yng Nghymru gan gyn-Aelod Seneddol Caerfyrddin, Gwynoro Jones. Mae'r gyfrol yn pontio'r cyfnod cythryblus rhwng 1967 a 1974, ac yn cynnwys toreth o storïau newydd am y tensiynau a'r gwrthdaro rhwng Gwynoro Jones a Gwynfor Evans, dau o wleidyddion amlycaf eu cyfnod.