"Mae pob stori dda yn syml yn ei hanfod, oherwydd mewn symlrwydd y daw dealltwriaeth. Nid stori dylwyth teg mo stori y gyrliog afieithus un."
Allwn ni ddim dewis llwybr bywyd. Rhaid derbyn y da a'r drwg...
Gan agor ei chalon am y tro cyntaf mae'r actores dalentog, Ffion Dafis, yn trafod ei chariad at ei theulu, ei hanturiaethau wrth deithio'r byd ai dyheadau am y dyfodol.
Wrth fentro i dir y drwg, mae'n siarad yn ddi-flewyn ar dafod am golli ei mam i ganser, am yr hyrddiadau sy'n ei phlagio a'i pherthynas ag alcohol.
Llyfr ffraeth sy'n edrych ar fywyd trwy lygaid Cymraes o'i chorun gwalltog i'w sawdl ac un sydd ddim yn ofni dweud ei dweud am bynciau o bob math, gan gynnwys rhai tabw. Dyma gyfrol i godi gwên, i gythruddo wrth uniaethu ac i'w mwynhau.