Adolygiadau
Dyma artist yn dewis cynfas fawr a'i llenwi gyda themâu bywyd – cariad, rhyfel, heddwch, ffydd – ynghyd â chast prysur o gymeriadau byw. Afon o stori sy'n llifo fel bywyd ei hun.
- Jon Gower
"Y War and Peace Cymraeg. Nofel y mae'n werth defnyddio'r gair 'epig' amdani. Hollol wefreiddiol."
- Bethan Mair
"Mae elfennau hudol i'r nofel hon, gyda'i harddull blaen, lefn, sy'n llifo fel dŵr afon... cymaint yw apêl y cymeriadau, yn enwedig Sara a'i hymwybyddiaeth synfyfyriol ac argyhoeddiadol, fel ein bod yn barod iawn i ddyfalbarhau drwy'r degawdau gyda hi, a theimlo'r golled ar y diwedd."
- Jane Aaron, Cylchgrawn Barn
"Darlunnir bywyd cymuned Ynys Fadog – fel y'i galwyd – yn ei holl amrywiaeth, ei galedi a'i dorcalon a'i lawenydd. Mae tempo hamddenol braf y nofel yn rhoi digon o le i'r awdur fedru sefydlu ei gymeriadau'n gadarn... Er ei fframwaith hanesyddol cryf, efallai mai prif nod rhagoriaeth Ynys Fadog yw cydymdeimlad dynol dwfn ei hawdur, ei ddawn fawr i ddychmygu unigolion credadwy ac i gyfleu'n argyhoeddiadol eu hemosiynau a'u credoau a'u hymwneud bler a'i gilydd. Darllenydd nofelau digon diemosiwn a chalongaled wyf fi fel arfer. Ond fe'm cyffyrddwyd hyd at ddagrau fwy nag unwaith wrth ddarllen y nofel bwerus a godidog hon."
- Gruffydd Aled Williams, O'r Pedwar Gwynt Gwanwyn 2019
"Epig go iawn gan Jerry Hunter. Gwych o nofel wnaeth gafael ynddo fi o'r dechrau i'r diwedd. Mae'n andros o fawr ond paid a bod ofn... mae'n hynod o ddarllenadwy!"
- Neil Wyn Jones, Trydar
"Nofel orchestrol yw hon sydd nid yn unig yn rhoi cip i ni ar ymdrechion cymuned Gymreig i oroesi, ond yn rhoi bwrw golwg hefyd dros gymdeithas ehangach y Taleithiau Unedig, ei gwerthoedd a'i gwendidau."
- Dafydd Morgan Lewis, Y Silff Lyfrau, Western Mail Weekend